SS FLORENCE COOKE
Nid oedd Porthmadog yn gysylltiedig â llawer o gychod stêm ond roedd hon yn un ohonynt (rhai eraill oedd y ddwy REBECCA a thygiau amrywiol). Hon oedd yr olaf hefyd y gellid ei hystyried yn un o longau Porthmadog, er mai yn Sunderland y’i cofrestrwyd ar hyd ei hoes.
Fe’i hadeiladwyd yn arbennig ar gyfer cwmni ffrwydron Cookes gan gwmni Hepples yn South Shields. Roedd swyddfeydd a chanolfan ddosbarthu’r cwmni ar gyfer pyllau glo’r ardal wedi eu lleoli yn Maiden Law, Co Durham. Gyda’r galw am ffrwydron wedi cynyddu yn dilyn y Rhyfel Mawr gorfodwyd y cwmni i chwilio am safle tawelach a mwy diogel, a chafwyd hynny ym Mhenrhyndeudraeth ger Porthmadog. Mae’r gwaith hwnnw bellach wedi cau.
Dechreuodd ar ei gwaith yn 1923. Byddai’n cario deunydd crai i Borthmadog ar gyfer cynhyrchu ffrwydron ac yna byddai’n dosbarthu’r nwyddau i safleoedd megis yr afon Tyne. Byddai ganddi fast a chorn symudol i hwyluso’r daith i fyny’r afon cyn belled â Newburn. Yna, byddai lori’n cludo’r deunyddiau gorffenedig i ganolfan dosbarthu Cookes. Byddai’n cario ffrwydron o bob math hefyd i borthladdoedd eraill yng Nghernyw ac yn yr Alban. Dychwelai wedyn gyda llwyth o lo, ond weithiau byddai’n mentro’n bellach na hynny gyda’r cynnyrch.
Roedd lle ar gyfer gweithwyr y cwmni ar ei bwrdd, ac o dro i dro byddai’r capten yn caniatáu i deithwyr eraill hwylio arni.
Cafodd ei chomisiynu ym 1939 i’w defnyddio fel llong i gario ffrwydron rhyfel yn Aberdaugleddau i ddechrau, ac wedyn yn Scarpa Flow. Cymerodd ran yn y glaniadau yn Normandi yn dilyn hynny cyn cael ei rhyddhau ym 1945.
Parhaodd FLORRIE i gario ffrwydron hyd at 1959 pan benderfynwyd bod defnyddio lori yn fwy proffidiol. Cafodd ei gwerthu i fasnachwr sgrap yn yr Iseldiroedd, er ceir un stori amdani’n cael ei defnyddio fel cwch atgyweirio ar y camlesi yno ar ôl tynnu ei pheirianwaith a’i chaban oddi arni.