Cei Balast
Gan fod yr allforion o Borthmadog yn llawer mwy na’r mewnforion dychwelai llawer o longau Porthmadog yn llawn balast. Ym 1862, pan wastatawyd y “Rotten Tare”, y man arllwys gwreiddiol ar gyfer balast, 18 troedfedd uwchben dwr isel, rhaid oedd ceisio safle newydd, a defnyddiwyd safle dywodlyd i’r dwyrain o afon Glaslyn. Yn raddol tyfodd ynys yno. Yn 1868 codwyd cei lle y dadlwythid y balast. Tri brawd, Joseph, John ac Evan Lewis, seiri longau a gwneuthwyr blociau, adeiladodd y cei ac a wneir atgyweiriadau pan fo angen. Ar rai hen fapiau fe’i gelwir Ynys Lewis
Byddai craen bychan symudol yn trosglwyddo’r balast i wagenni bychain a wthid ar hyd y trac i ben draw’r ynys. Codwyd tŷ ar gyfer gyrrwr y craen a’i deulu hefyd. Yn ôl y llyfr “Immortal Sails” hwn oedd y teulu Roberts. Gellir cael gafael ar gerrig o lawer rhan o’r byd ar Ynys Balast.