Datblygiad y Port
Nid oedd Porthmadog yn bodoli nes adeiladwyd y Cob gan William Madocks ym 1811 i ennill tir amaethyddol wrth sychu’r Traeth Mawr. Wrth i’r afon Glaslyn wyro crëwyd harbwr naturiol newydd ac adeiladwyd y glanfeydd cyntaf ym 1825.
Roedd angen llechi to o’r ansawdd gorau ar ddinasoedd Lloegr a gogledd Ewrop, a oedd yn ehangu’n gyflym. Arferid cludo’r llechi o’r chwareli i’r porthladd newydd ar dramffyrdd. Cafodd Rheilffordd Ffestiniog ei hadeiladu ym 1836.
SRoedd adeiladu a chynnal llongau yn ddiwydiant pwysig a chafodd bron i dri chant o longau eu hadeiladu o amgylch y Traeth Mawr ac ym Mhorthmadog a Borth-y-gest yn cynnwys, yn fwy diweddar, y sgwneri “Western Ocean Yachts” enwog.
Roedd y llongau lleol yn masnachu’n fyd-eang, gan gludo ffosffad o India’r Gorllewin a phenfras hallt o Newfoundland a Labrador. Roedd llongau hwylio mawr “Penrhyn yr Horn”, rhy fawr i fyned i mewn i’r porthladd, yn berchen ac yn criwio gan bobl leol..
Dirywiodd y fasnach adeiladu llongau ac allforio llechi adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, a chludwyd y llwyth olaf o Borthmadog ym 1947.
Arferai llongau alw heibio’r porthladd hyd at yr 1980au Cludwyd ffrwydron o’r ardal ar y Florence Cooke yn ogystal â nwyddau amrywiol i mewn. Yn ystod y cyfnod o adeiladu’r atomfa yn Nhrawsfynydd a phwerdai eraill, yn yr 1960au a’r 1980au, dadlwythwyd offer trwm arbennig yma.