Porthmadog Maritime Museum, The Harbour, Porthmadog, LL49 9LU 01766 514581 / 07866633927 contact@portmm.org

Adeiladu Llongau

Adeiladu Llongau

Cafodd dros dri chant o longau eu hadeiladu yn yr ardal – Yn y dyddiau cynnar smacs arfordirol bychain ar draethau mewn gwahanol lefydd ar y Glaslyn a’r Dwyryd ( Traeth Mawr a’r Traeth Bach ) . Y mwyaf yn y cyfnod hwn oedd y Snow/Brig  ” Gomer “.

Pan ddaeth Porthmadog i fodolaeth yn 1825 cafodd longau eu hadeiladu yma ac yn Borth y Gest mewn nifer o iardiau llongau. Y llong olaf i gael ei hadeiladu oedd y ” Gestiana ” yn 1913.

Ar ôl cael ei lansio cafodd y llong ei dodrefnu gyda mastiau , rigin , hwyliau a’r holl offer.  Roedd Porthmadog bron yn hollol hunangynhaliol. Yn ogystal ag adeiladu’r llongau pren roedd llofftydd hwyliau, rhafflannau a chynhyrchwyr blociau pren a phwlïau.  Roedd hyd yn oed y bisgedi caled ar gyfer y llongau’n cael eu pobi yn y dref.

Mae llawer o waith haearn ar long – y colfachau sy’n dal y llyw yn ei le, yr angor a’r gadwyn, y chogiau a phawls ar y winsh, darnau metel sy’n strapio’r hwylbrennau i’r mastiau, bolltau llygad a ffitiadau ar gyfer y rigio a llawer o eitemau eraill.

Gwnaethpwyd y gwaith hwn gan y gefeiliau a’r ffowndrïau.