Llechi i’r Môr
Yn y ddechrau cludid llechi o’r chwareli i lawr i lefel y môr, at y ceiau ar Y Ddwyryd gan certiau, cyn cael eu trosglwyddo wedyn ar y cychod at y llongau mawrion yn Ynys Cyngar. Daeth adeiladu’r Cob a datblygiad tref Porthmadog â’r drefn hon i ben yn raddol.
Trwy adeiladu tramffyrdd yn y chwareli ac wedyn Rheilffordd gul Ffestiniog, cynyddu wnaeth y llwythi llechi a’r cyflymder y gellid eu trosglwyddo.
Adeiladwyd Rheilffordd Ffestiniog rhwng 1833 a 1836 i gludo’r llechi o chwareli Stiniog i Borthmadog lle llwythid y llechi i’r llongau. Cafodd y rheilffordd ei hadeiladu yn y fath fodd fel y gellid gadael i’r wagenni rowlio i lawr o Flaenau Ffestiniog i’r porthladd trwy ddisgyrchiant. Tynnid y wagenni gweigion i fyny’n ôl gan geffylau – teithiant hwy i lawr ar y trên mewn wagenni pwrpasol – ‘dandi’.
Ym mis Hydref 1863, defnyddiwyd injan stêm am y tro cyntaf i dynnu trenau hirach o lawer, a galluogwyd y rheilffordd i roi trenau i deithwyr ar waith ym 1865. Ym 1869 defnyddiwyd injan ddwbl Fairlie am y tro cyntaf, a daeth y rhain yn y man yn un o nodweddion mwyaf adnabyddus y rheilffordd.
Byddai’r trenau i lawr i’r porthladd yn parhau i weithredu yn ôl disgyrchiant, ond cyflymu wnaeth y trenau gweigion ar i fyny, a chynyddodd capasiti’r rheilffordd.
Daeth Rheilffordd Ffestiniog yn gadwyn bwysig rhwng trefi Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog, a chyfrannodd hefyd at gynnydd ym mhoblogrwydd a ffyniant y ddwy dref.
Cafodd llechi eu cludo i borthladdoedd ledled y DU ac Ewrop, gan gynnwys Lerpwl a Llundain ac a drosglwyddwyd i longau mwy o faint er mwyn eu cymryd i bob cwr o’r byd.