{"id":248,"date":"2017-02-13T20:02:36","date_gmt":"2017-02-13T20:02:36","guid":{"rendered":"https:\/\/danderton.co.uk\/projects\/portmm\/?page_id=248"},"modified":"2017-02-13T20:12:07","modified_gmt":"2017-02-13T20:12:07","slug":"language-policy","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/portmm.org\/cy\/language-policy\/","title":{"rendered":"Polisi\u2019r Iaith Gymraeg"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h1>Polisi\u2019r Iaith Gymraeg<\/h1>\n<h2><strong>Rhagair<\/strong><\/h2>\n<p>Mae\u2019r Amgueddfa\u2019r M\u00f4r Porthmadog yn bodoli mewn<\/p>\n<p>rhan o Gymru sy&#8217;n un o gadarnleoedd y Gymraeg. Sefydliad annibynnol yw\u2019r amgueddfa, yn elusen gofrestredig ac fe&#8217;i hariennir yn bennaf gan t\u00e2l mynediad bach a rhoddion. Mae&#8217;r amgueddfa yn cael ei gynnal gan nifer fach o wirfoddolwyr a chefnogwyr o\u2019r ardal. Mae ar agor rhwng y Pasg a mis Hydref ; yn atyniad twristiaeth poblogaidd ac hefyd bobl leol a grwpiau ysgolion sy&#8217;n dymuno dysgu am hanes morwrol yr ardal.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r amgueddfa\u2019n ymdrechu i sicrhau bod cydbwysedd yn y defnydd a wna o\u2019r Gymraeg ag y Saesneg ac mae wedi ymrwymo i gyflawni ei weithgareddau a&#8217;i waith dehongli cyhoeddus mewn modd sydd yn cyd-fynd \u00e2 gofynion Comisiynydd y Gymraeg:<\/p>\n<h2><strong>Gohebiaeth<\/strong><\/h2>\n<p>Pan fo rhywun yn ysgrifennu atom yn Gymraeg, byddwn ni\u2019n anfon ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb). Pan fyddwn ni\u2019n cychwyn gohebu ag unigolyn, gr\u0175p neu sefydliad yng Nghymru, byddwn ni\u2019n gwneud hynny yn Gymraeg a Saesneg oni bai ein bod ni\u2019n gwybod y byddai\u2019n well ganddynt ohebu yn y Gymraeg neu\u2019r Saesneg yn unig.<\/p>\n<p>Mae hyn yn berthnasol i ohebiaeth ar ffurf e-bost ac ar bapur.<\/p>\n<h2><strong>Arwyddion<\/strong><\/h2>\n<p>Oni bai bod modd defnyddio symbol, byddwn ni\u2019n sicrhau bod ein holl arwyddion parhaol a dros dro yn Gymraeg a Saesneg ac yn trin y Gymraeg a\u2019r Saesneg yn gyfartal o ran maint, eglurder ac amlygrwydd. Os darperir arwyddion Cymraeg a Saesneg ar wah\u00e2n, byddant yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd ac amlygrwydd.<\/p>\n<p>Byddwn ni\u2019n dilyn yr arfer hon wrth godi arwyddion am y tro cyntaf, ac wrth godi arwyddion newydd i gymryd lle eraill.<\/p>\n<h2><strong>Cyhoeddiadau<\/strong><\/h2>\n<p>Bydd pob dogfen a gynhyrchir gan yr amgueddfa ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru ar gael yn y Gymraeg a\u2019r Saesneg.<\/p>\n<p>Os oes angen cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wah\u00e2n o\u2019r dogfennau (er enghraifft, lle byddai un ddogfen yn rhy hir neu swmpus), bydd y ddwy fersiwn yn gyfartal o ran maint ac ansawdd, byddant ar gael yr un pryd a bydd hi\u2019r un mor hawdd cael gafael ar y ddwy.<\/p>\n<p>Bydd y naill fersiwn a\u2019r llall yn nodi\u2019n glir bod y deunydd ar gael yn yr iaith arall.<\/p>\n<p>Mae hyn yn berthnasol i\u2019r holl ddeunyddiau y mae\u2019r amgueddfa\u2019n eu cynhyrchu, ond nid yw\u2019n berthnasol i ddeunyddiau a gyhoeddir trwy ffynonellau eraill ac sydd ar werth yn ein siop.<\/p>\n<h2><strong>Y cyfryngau newydd a TGCh<\/strong><\/h2>\n<p>Bydd holl nodweddion rhyngweithiol ein gwefannau\u2019n cynnig rhyngwyneb Cymraeg a Saesneg. Byddwn ni\u2019n sicrhau ein bod yn cynnig yr un faint o gynnwys Cymraeg a Saesneg wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.<\/p>\n<h2><strong>Datganiadau i\u2019r Wasg<\/strong><\/h2>\n<p>Byddwn ni\u2019n cyhoeddi datganiadau i\u2019r wasg a\u2019r cyfryngau darlledu yng Nghymru yn y Gymraeg a\u2019r Saesneg. Wrth gyhoeddi datganiadau i\u2019r wasg ar ein gwefan, byddwn ni\u2019n eu cyhoeddi yn y Gymraeg a\u2019r Saesneg yr unpryd.<\/p>\n<p>Byddwn ni\u2019n sicrhau bod siaradwyr Cymraeg ar gael ar gyfer cyfweliadau \u00e2\u2019r wasg gyfrwng Gymraeg a\u2019r cyfryngau darlledu lle bynnag y bo modd.<\/p>\n<h2><strong>Hysbysebu a chyhoeddusrwydd<\/strong><\/h2>\n<p>Bydd yr holl ddeunyddiau cyhoeddusrwydd, gwybodaeth gyhoeddus, arddangos ac hysbysebu a ddefnyddiwn yng Nghymru yn y Gymraeg a\u2019r Saesneg, neu fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wah\u00e2n. Os oes angen cyhoeddi\u2019r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wah\u00e2n, bydd y ddwy fersiwn yn gyfartal o ran maint, amlygrwydd ac ansawdd, ac yr un mor hawdd cael gafael arnynt.<\/p>\n<h2><strong>Dysgu Cymraeg<\/strong><\/h2>\n<p>Byddwn ni\u2019n annog ein gwirfoddolwyr i ddysgu neu i wella eu Cymraeg, a byddwn ni\u2019n cefnogi unrhyw aelodau o staff sy\u2019n dymuno gwneud hynny.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Polisi\u2019r Iaith Gymraeg Rhagair Mae\u2019r Amgueddfa\u2019r M\u00f4r Porthmadog yn bodoli mewn rhan o Gymru sy&#8217;n un o gadarnleoedd y Gymraeg. Sefydliad annibynnol yw\u2019r amgueddfa, yn elusen gofrestredig ac fe&#8217;i hariennir yn bennaf gan t\u00e2l mynediad bach a rhoddion. Mae&#8217;r amgueddfa yn cael ei gynnal gan nifer fach o wirfoddolwyr a [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/portmm.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/248"}],"collection":[{"href":"https:\/\/portmm.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/portmm.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/portmm.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/portmm.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=248"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/portmm.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/248\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":250,"href":"https:\/\/portmm.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/248\/revisions\/250"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/portmm.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=248"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}