Croeso
Mae Porthmadog yn gorwedd ar lannau gogleddol Bae Ceredigion ar arfordir gorllewinol y Deyrnas Unedig. Mae ganddi hanes morwrol hir yn mynd yn ôl i’r dyddiau pan roedd yr ardal yn anghysbell a thrafnidiaeth yn hawsach ar y môr.
Yn yr amgueddfa, yn y sied lechi olaf ar yr harbwr, mae casgliad mawr o arteffactau sy’n cyflwyno gweithgareddau morwrol yr ardal – datblygiad y porthladd, adeiladu llongau, y llongau, a bywydau’r morwyr.
Mae yma lecyn arbennig gyda gweithgareddau i blant.
Hygyrchedd
Mae dau gris bach i brif ddrws ond mae ramp cadeiriau olwyn i’r fynedfa ochr . Yn fewnol mae llethr byr ar un pen o’r adeilad .




