LLWYTHI TRYMION ARBENIGOL
Wrth adeiladu atomfa yn Nhrawsfynydd yng nghanol ucheldir Eryri, 12 milltir o dref Porthmadog, fe gododd anhawster diddorol – sut i symud offer a pheiriannau trymion i safle mor anghysbell.
Adeiladwyd yr atomfa gan gonsortiwm o gwmnïoedd: Crompton Parkinson; International Combustion, Fairey Engineering a Richardsons Westgarth. Yr ymgynghorydd pensaernïol ar gyfer yr adeiladau oedd Sir Basil Spence a Sylvia Crowe oedd pensaer y tirlunio. Cychwynnwyd ar y gwaith ym mis Gorffennaf 1959, ac roedd y ddau adweithydd yn weithredol erbyn Mawrth 1965, gyda’r atomfa yn gwbl gynhyrchiol erbyn Hydref 1968, ar gost o £103 miliwn.
Penderfynwyd yn gynnar iawn mai’r dull orau o drosglwyddo’r llwythi trymion o’r ffatrïoedd cynhyrchu i Borthmadog oedd gyda llong, ac oddi yno i Drawsfynydd ar y ffordd fawr. Golyga hyn osod sylfaen concrid ar lanfa Maenofferen, codi craen llwythi trymion anferth ar gyfer dadlwytho’r offer o’r llongau, a lledu a gwella rhannau o’r ffordd fawr, gan gynnwys cryfhau’r pontydd. Adeiladwyd y craen yn 1960, a daethpwyd â’r offer codi llwythi trymion i mewn yn ystod y ddwy i dair blynedd ganlynol.
Yn ystod cyfnod o chwe blynedd ar hugain y bu’r atomfa’n gweithredu, daeth llwythi trymion eraill gyda chwch i’w dadlwytho ar Ben Cei – ym 1987 cafodd newidydd ar gyfer Pwerdy Ffestiniog ei gludo gan ddau gwch o eiddo cwmni o Gaergybi – Holyhead Towing Co Ltd. – y North Stack a’r South Stack.

